The Student Room Group

Welsh Learners' Society

Scroll to see replies

Original post by Calsiwm_Silicad
ydy e wir ? Mi astudiais ef fel rhan o'm TGAU Cymraeg Llenyddiaeth - mae'r nofel yn llawer well! Nad yw'r perthynas â chwedl Blodeuwedd mor amlwg a chlyfar yn y ffilm a yw'n y nofel yn fy marn i


I ddweud y gwir dw i wedi bron anghofio chwedl Blodeuwedd erbyn hyn, a mi wnes i ddrallen y nofel mor gyflym, dw i'n cael trafferth cofio'r gwahaniaethau rhyngddo fo a'r ffilm.

Dw i'n meddwl fod bron pawb yn astudio fo ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Gymraeg. Clywais i stori gan Sian James (sy'n chwarae Martha) pan ddaeth hi i mewn i siarad efo ni am y ffilm yn ystod Blwyddyn 11. Roedd hi yng Nghaerdydd a roedd grŵp o ferched tu ôl iddi yn canu caneuon o'r ffilm. Mi wnaeth hi droi o gwmpas yn y tywyllwch i edrych arnynt a chawson nhw dipyn o sioc!

Ond dw i'n gweld rhywbeth newydd yn y ffilm pob tro dw i'n ei wylio.

Quick Reply

Latest

Trending

Trending