You are Here:
Home
>< Sponsored features
|
Mae’r dyddiad cau’n nesáu ... gwnewch gais am gyllid i fyfyrwyr nawr!
Pob blwyddyn mae myfyrwyr yn ymgeisio’n hwyr am eu cyllid heb unrhyw ffordd i dalu am eu cwrs, neuadd breswyl a chostau pwysig eraill. Peidiwch â gadael i hyn ddigwydd i chi!
Y dyddiad cau i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich arian ar ddechrau’ch cwrs yw 15 Mai 2015 felly ymgeisiwch nawr! Os yw’ch cais yn hwyr, efallai y bydd eich arian yn hwyr hefyd.
Y ffordd gyflymaf a hawsaf i ymgeisio yw ar-lein yn
www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Does dim ots os nad oes gennych le wedi ei gadarnhau, dylech wneud cais nawr beth bynnag. Defnyddiwch eich prif ddewis o gwrs a gallwch ei newid yn hwyrach os oes angen.
Os ydych chi wedi dechrau eich cais ond heb ei gwblhau, mewngofnodwch yn ôl i’ch cyfrif cyllid i fyfyrwyr a’i gwblhau cyn y dyddiad cau.
Cyngor arbenigol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru
I’ch helpu i lenwi’ch cais, rydym wedi cynhyrchu detholiad o offer a chanllaw cam wrth gam ar beth allwch chi ei gael a sut i ymgeisio. I weld y canllawiau defnyddiol hyn ac am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan ganlynol a’i rhoi yn eich ffefrynnau www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Ac i gael diweddariadau rheolaidd ar gyllid i fyfyrwyr, hoffwch ni ar Facebook, dilynwch ni ar Twitter a gwyliwch ein ffilmiau ar YouTube.
www.facebook.com/SFWales
www.twitter.com/SF_Wales
www.youtube.com/SFWFILM